Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 5 Gorffennaf 2018
Amser: 09.00 - 14.30
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Ronnie Alexander Trevor Reaney Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol John Chick, Pennaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau Rebecca Hardwicke, Partner Busnes Adnoddau Dynol yr Aelodau Martin Jennings, Arweinydd y Tîm Ymchwil Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Ymgysylltu |
Staff y Pwyllgor: |
Sian Giddins, Clerc dros dro Lowri Jones, Dirprwy Glerc dros dro |
1.1. Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2. Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai 2018.
Cam gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod ar 24 Mai 2018.
2.1. Trafododd y Bwrdd gwmpas adolygiad y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad a chytunodd ar y canlynol:
- y darpariaethau yn y Penderfyniad y gallai fod angen rhoi sylw arbennig iddynt yn ystod yr adolygiad;
- sut gallai ddymuno grwpio'r materion a godwyd i'w hystyried;
- trafod y dulliau mwyaf priodol o ymgysylltu â rhanddeiliaid fesul achos.
2.2. Cytunodd y Bwrdd i drafod goblygiadau rhaglen y Comisiwn ar gyfer diwygio'r Cynulliad i'r Penderfyniad pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.
2.3. Cadarnhaodd y Bwrdd ei fwriad i gyhoeddi'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad flwyddyn cyn yr etholiad cyffredinol.
2.4. Cytunodd y Bwrdd i drafod rhaglen waith fanylach ar gyfer yr adolygiad yn ei gyfarfod nesaf.
Cam gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i baratoi rhaglen waith fanwl i'r Bwrdd ei drafod yn ei gyfarfod nesaf.
3.1.Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd am y tribiwnlys cyflogaeth presennol.
4.1. Cytunodd y Bwrdd i dreialu ffurflen gais newydd i'r Aelodau a hoffai wneud cais am dreuliau eithriadol o dan adran 2.4 o'r Penderfyniad.
Camau gweithredu:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:
- cyhoeddi'r ffurflen gais;
- monitro unrhyw adborth a geir am y ffurflen.
5.1. Trafododd y Bwrdd Adroddiad Blynyddol drafft y Bwrdd Taliadau 2017-18 ac, yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd i gyhoeddi'r adroddiad maes o law.
Camau gweithredu:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:
- adlewyrchu'r newidiadau y gofynnodd y Bwrdd amdanynt yn yr adroddiad;
- paratoi'r adroddiad ar gyfer ei gyhoeddi.
6.1. Cytunodd y Bwrdd i sefydlu corff dynodedig a fyddai'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar ran staff cymorth.
6.2. Hefyd, cytunodd y Bwrdd ar y canlynol:
- byddai'r corff yn cynnwys y Pennaeth Pensiynau a chynrychiolydd o'r Bwrdd a'r Comisiwn;
- a dylai gyfarfod yn flynyddol.
Cam gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i sefydlu'r corff ac i hysbysu'r Bwrdd am ei weithgareddau.
7.1. Nododd y Bwrdd:
- yr ohebiaeth gan y Grŵp Llafur a chytunodd i ymateb i'r materion a godwyd;
- adroddiad y datganiad a chanlyniadau'r arolwg Urddas a Pharch.
Cam gweithredu:
Y Bwrdd i ymateb i'r Grŵp Llafur.